Senedd Cymru / Welsh Parliament
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM)
Cyfarfod am 18:25 ddydd Mawrth 12 Medi drwy Zoom
Cofnodion
Yn bresennol: David Rees AS (Cadeirydd), Mark Isherwood AS (Is-gadeirydd), Jeremy Miles AS, Niall Sommerville (Ysgrifenyddiaeth), Pete Arnold, Stephen Eales, Faron Moller, Lewis Dean, Dr Geertje van Keulen, yr Athro Jas Pal Badyal, Dayna Mason, Wendy Sadler, Steven Neal-Price, Tom Addison, Lloyd Hopkin, Rhobert Lewis, Andy Bellamy, Cerian Angharad, Keith Jones, Robert Hoyle
1) Croeso
Croesawodd David Rees AS, y Cadeirydd, yr aelodau o’r grŵp trawsbleidiol i'r cyfarfod, gan estyn croeso penodol i Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, sef y siaradwr gwadd heddiw.
2) Ymddiheuriadau am absenoldeb
Cafwyd ymddiheuriadau gan Dr Emma Yhnell, Jack Sargeant AS, Mike Edmunds, Mike Charlton, Leigh Jeffes
3) Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion yn codi
Dosbarthwyd y cofnodion ymhlith yr aelodau. Yr unig fater a oedd yn codi oedd y cam gweithredu ynghylch ysgrifennu at Weinidog yr Economi a’r Gweinidog Addysg yn eu gwahodd i un o gyfarfodydd y grŵp trawsbleidiol, ac yn gofyn iddynt am eu gweledigaeth ar gyfer gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth yng nghyd-destun economi Cymru a sut y mae’r system addysg wedi’i sefydlu i gyflawni’r weledigaeth hon. Nodwyd bod y cam gweithredu hwn wedi’i gymryd.
4) Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Croesawodd y grŵp Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Roedd y grŵp wedi ysgrifennu at Mr. Miles yn dilyn trafodaeth mewn cyfarfodydd blaenorol ynghylch diffyg graddedigion STEMM a'r effaith ganlyniadol y mae hyn yn ei chael ar fusnesau, lefelau buddsoddiad ac economi Cymru. Hefyd, codwyd materion cysylltiedig ym maes addysg, megis diffyg athrawon arbenigol sy’n addysgu gwyddoniaeth yn benodol, materion o ran adnoddau, y broses o ddiwygio’r cwricwlwm a’r effaith y mae’r sefyllfa hon yn ei chael ar bobl ifanc sy’n dilyn pynciau STEMM ac sydd am gael gyrfa yn y sector STEMM.
Siaradodd y Gweinidog am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd a’i blaenoriaethau yn y maes hwn, gan gynnwys ymdrin â heriau o ran recriwtio athrawon a chymhellion cysylltiedig, yn ogystal â rôl ehangach y pynciau STEMM yn economi Cymru. Yna, cynhaliwyd sesiwn hawl i holi, a chododd aelodau’r grŵp sawl pwnc perthnasol, gan gynnwys diwygio'r cwricwlwm, addysg gychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus. Cynigiodd y Gweinidog ddychwelyd i siarad â’r grŵp mewn cyfarfod yn y dyfodol i drafod y materion hyn mewn rhagor o fanylder.
5) Cyfarfod cyffredinol blynyddol
Cynhaliodd y grŵp trawsbleidiol ei gyfarfod cyffredinol blynyddol. Cafodd David Rees AS ei ail-ethol yn Gadeirydd, cafodd Mark Isherwood AS a Jack Sergeant AS ill dau eu hail-ethol yn Is-gadeiryddion a chafodd Niall Sommerville o’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol ei ail-ethol yn Ysgrifennydd. Ail-etholwyd pawb trwy gymeradwyaeth aelodau’r grŵp trawsbleidiol.
Nododd David Rees AS mai dyma fydd ei flwyddyn olaf yn gwasanaethu fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol.
6) Y wybodaeth ddiweddaraf gan Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru
Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am waith Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru gan Dr Robert Hoyle a'r Athro Jas Pal Badyal, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru.
7) Y wybodaeth ddiweddaraf gan gyrff proffesiynol a chymdeithasau dysgedig.
Gwahoddwyd cyfeillion i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf yn ysgrifenedig i Niall Sommerville i'w dosbarthu ymhlith aelodau’r grŵp yn dilyn y cyfarfod.
8) Pynciau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol
Gofynnwyd i gyfeillion anfon syniadau ar gyfer pynciau posibl i’w trafod yn ystod cyfarfodydd yn y dyfodol at Niall Sommerville. Un pwnc a awgrymwyd oedd mynediad teg, amrywiaeth a chynhwysiant ym maes STEMM. Nodwyd y byddai’r grŵp yn trafod y mater hwn yn ystod y cyfarfod nesaf.
9) Unrhyw fater arall
Arweiniodd yr Athro Faron Muller drafodaeth fer ar ddeallusrwydd artiffisial.
Awgrymodd David Rees AS y dylid ysgrifennu eto at Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, i’w wahodd i gyfarfod yn y dyfodol i drafod rôl y pynciau STEMM mewn strategaeth ddiwydiannol a thu hwnt.
10) Cloi'r cyfarfod